Hafan
Croeso i wefan y Society Profiad, un o fandiau hip-hop mwyaf cyffrous Cymru.
Cynan Llwyd yw prif rapiwr y band, mae e wedi bod yn rapio ar y sîn ers blynyddoedd ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf gyda’i fand gwreiddiol Kenavo pan oedd yn 13 yn unig. Wedi gigio droeon a rhyddhau dau EP gyda Kenavo symudodd Cynan ymlaen i berfformio gyda Sleifar a’r Teulu gan ddiweddu yn recordio Sesiwn Peel i Radio 1 a pherfformio o flaen pum mil o bobl yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2005. Bellach maen byw yng Nghaerdydd ac yn un o DJ’s enwog Dirty Pop yng Nghlwb Ifor Bach. Gyda’r Society Profiad daw Cynan yn ôl i’r llwyfan i rapio ar ôl rhai blynyddoedd o seibiant.
Un arall o sylfaenwyr y prosiect yw Rhys Llwyd, ef oedd yn gyfrifol am gyfansoddi a chynhyrchu caneuon Kenavo ac y maen dod a’r un gwasanaethau i’r prosiect newydd. Mae aelodau eraill y band yn cynnwys Emrys James o Gaerdydd fel ail rapiwr, Stef Elis ar y synth ac Andras Iago ar y gitars.
Dewch i mewn drwy Ddrws y Society Profiad…

